GWEINIDOGION Y DU YN GWEITHREDU MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG
|
|
Rheoliadau Darpariaethau Cyffredin a Rheolau Darpariaethau Cyffredin y Cronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd etc. (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019 Wedi'u gosod yn Senedd y DU: 28 Ionawr 2019 |
|
Sifftio |
|
Yn destun gwaith sifftio yn Senedd y DU? |
Na |
Y weithdrefn: |
Cadarnhaol |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin |
|
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi |
|
Dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU |
Dd/B |
Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: |
Papur 16 |
Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol (SICM) o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd eu bod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol) |
Dd/B |
Gweithdrefn graffu |
|
Canlyniad y broses sifftio |
Dd/B |
Y weithdrefn: |
Cadarnhaol |
Dyddiad trafod gan y Cydbwyllgor ar Offerynnau Statudol |
Nid yw'n hysbys |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin |
Nid yw'n hysbys |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi |
Nid yw'n hysbys |
Sylwadau
Bwriedir i'r Rheoliadau hyn gael eu gwneud gan Lywodraeth y DU yn unol ag adran 8(1) a pharagraff 21(a)(ii) a (b) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018. Mae Rheoliadau amrywiol yn yr UE yn sefydlu cronfeydd y bwriedir iddynt leihau anghydraddoldebau cymdeithasol ac economaidd ar draws yr UE. Y cronfeydd sy'n berthnasol i'r offeryn hwn yw:
(i) Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF), Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) a Chydweithredu Tiriogaethol Ewropeaidd (ETC). Gelwir y rhain gyda'i gilydd yn "Gronfeydd Strwythurol"; a'r (ii) Gronfa Gydlyniant (CF).
Mewn achos o ymadael â'r UE heb gytundeb, ni fydd Rheoliadau'r UE sy'n llywodraethu'r Cronfeydd Strwythurol a'r Gronfa Gydlyniant bellach yn gweithredu.
Bwriad polisi Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yw bod y prosiectau a ariennir eisoes yn parhau, lle bo angen, gan ddefnyddio cyllid domestig.
Mae rheoliadau 3 a 4 o'r offeryn hwn yn dirymu a/neu'n datgymhwyso Rheoliadau perthnasol yr UE. Mae rheoliad 6 yn rhoi pwerau i'r Ysgrifennydd Gwladol ac i Weinidogion Cymru ddarparu cymorth ariannol at ddibenion parhau i gefnogi'r prosiectau hynny gan ddefnyddio cronfeydd domestig.
Ni fydd yr offeryn hwn yn diogelu prosiectau'r Cronfeydd Strwythurol na phrosiectau'r Gronfa Gyndlyniant sy'n cael eu lansio ar ôl y diwrnod ymadael. Mae'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn gwneud y sylwadau a ganlyn mewn perthynas â datganiad Llywodraeth Cymru ar 31 Ionawr 2019 ynghylch effaith y Rheoliadau hyn: Mae'r Datganiad yn nodi offerynnau UE sy'n cael eu diwygio neu eu dirymu. Mae'r rhestr o offerynnau yn gywir, ac eithrio'r eitemau a ganlyn--
(i) Mae'r Datganiad yn cyfeirio at ddau offeryn nad ydynt wedi'u cynnwys yng nghwmpas y Rheoliadau hyn, sef:
a. Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (UE) 2015/616, 13 Chwefror 2015; a b. Rheoliad Gweithredu'r Comisiwn (UE) 2016/207, 20 Ionawr 2015.
(ii) Ar y llaw arall, mae'r Datganiad yn hepgor nifer o offerynnau sydd yn dod o fewn cwmpas y Rheoliadau hyn. Rhestrir yr offerynnau hynny ym mharagraffau 14, 15, 16 a 17 o Atodlen 1 i'r Rheoliadau, ac ym mharagraffau 2, 4, 8, 9 a 10 o Atodlen 2 i'r Rheoliadau.
(iii) Mae'r Datganiad yn cyfeirio at 2014/266/UE: Rheoliad Penderfynu’r Comisiwn, 16 Mehefin 2014. Credwn fod y cyfeiriad hwn yn wall teipograffyddol ac y dylai'r datganiad gyfeirio at '2014/366/UE'.
Mae'r crynodeb uchod a chynnwys y Memorandwm Esboniadol i'r Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith. Nid yw'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn ystyried bod unrhyw faterion arwyddocaol yn codi o dan baragraff 8 o'r Memorandwm ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a'r cam o Sefydlu Fframweithiau Cyffredin mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.
Nid yw'r Cynghorwyr Cyfreithiol wedi nodi unrhyw reswm cyfreithiol i geisio cynnig cydsyniad o dan Reol Sefydlog 30A.10 mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.
|